P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Amelia Thomas, ar ôl casglu 5,241 lofnodion ar-lein a 107 ar bapur, sef cyfanswm o 5,348 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Byddai £30M yn cael ei wario ar ffyrdd yn unig i gael mynediad i'r tir y bwriedir adeiladu’r Ganolfan newydd arno. Mae mynediad ar gael eisoes yn hen Ysbyty'r Eglwys Newydd a safle presennol Velindre, ac maent yn ddewisiadau amgen hyfyw.

Nid yw'r cynllun presennol yn unol ag arfer gorau ar gyfer gofal canser cydgysylltiedig modern, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda gwasanaethau wedi’u cysylltu’n gorfforol ag ysbytai acíwt mwy. Cynigiodd Ysbyty’r Mynydd Bychan le i Velindre ochr yn ochr â chanolfan ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn ei hadeilad newydd sydd i fod i ddechrau cael ei adeiladu yn 2023.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Velindre yn cyfnewid eu tir presennol (safle ysbyty'r Eglwys Newydd) am dir y ddôl, (sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro). Byddai angen gwario £30M o arian trethdalwyr i adeiladu ffyrdd mynediad er mwyn i waith adeiladu allu digwydd ar y ddôl hon sydd wedi'i thir-gloi gan ei bod yn gysylltiedig â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

 

Byddai cael gwared â’r Northern Meadows yn hynod niweidiol i les corfforol a meddyliol.

 

Mae triniaeth canser wedi dod yn fwy cymhleth, ac mae gan gleifion sy'n cael triniaeth faterion cynyddol gymhleth. Byddai lleoli’r adeilad yn y Mynydd Bychan, ochr yn ochr â chanolfan ymchwil canser Prifysgol Caerdydd, yn darparu mynediad cyflym i ofal dwys ac arbenigeddau meddygol a llawfeddygol allweddol eraill pan fydd eu hangen ar gleifion.

 

Mae model arfaethedig Canolfan Ganser Velindre wedi dyddio ac mae’n rhaid craffu arno. Ystyrir bod gwasanaethau cymorth meddygol a llawfeddygol ar y safle yn HANFODOL: https://www.england.nhs.uk/east-of-england/wp-content/uploads/sites/47/2019/08/Independent-Clinical-Panel-Report.pdf

 

https://savethenorthernmeadows.wales/?page_id=1129

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru